Croeso!

Rydym yn falch i’ch croesawu chi i Gymdeithas Gymreig Vancouver. Sefydlwyd ein Cymdeithas ym 1908, ac y mae’r Neuadd Gymreig neu Gambriaidd (Saesneg Cambrian Hall) wedi cael ei hadeiladu ym 1929 gan Gymry Vancouver. Ers y pryd hynny, mae’r Neuadd wedi bod yn ganolfan gymdeithasol a diwylliannol i’r Cymry a’u cyfeillion, ai pobl leol ai ymwelwyr tramor. Defnyddir yr adeilad i bob math o weithgareddau, o briodasau a chymanfaoedd canu i wleddau a dawnsfeydd.

The Cambrian Hall

The Cambrian Hall

Y bydd gwahodd agored i bawb i ymweld â’n Gymdeithas gyfeillgar a chroesawus. Mae nifer o ddigywddiadau misol a blynyddol (gweler y tab “Events” uchaf), yn gynnwys cyfle i siarad yr hen iaith, a gwersi i’w dysgu i’ch teulu a’ch ffrindiau (gweler y tab “Welsh Classes”). Os oes gennych syniadau neu awgrymiadau eraill, y mae croeso mawr i chi ddywedyd wrthym neu, yn fwy, i wirfoddoli gennym i gadarnhau ein Cymdeithas.

Y mae’r neuadd yn cynnwys llwyfan a gwrandawle a chegin fach. Gellir rhentu’r neuadd drwy ddefnyddio’r ddolen hon: (Dolen i’r Dudalen Rentu). I aelodau’r Gymdeithas yn unig, y mae hefyd dafarn sy’n atgoffa tafarndai Cymru, a llyfrgell llawn o lyfrau Cymraeg a Chymreig (gw. “Visitors’ Area” am y catalog). Am gefnogi’r Gymdeithas, rydym yn eich anogi chi i ymuno â’r Gymdeithas drwy’r ddolen hon drwy Paypal (Dolen i Ffurflen Paypal) ac os ydych yn lleol, i fynd atom yn aml i ddathlu Cymru a Chymreictod.